Carly Fiorina

Mae Cara “ Carly ” Carleton Fiorina (ganwyd 6 Medi 1954) yn wraig fusnes a gwleidydd Americanaidd sydd fwyaf adnabyddus am ei chyfnod fel prif swyddog gweithredol Hewlett- Packard HP rhwng 1999 a 2005. Hi oedd y ferch gyntaf i greu ac arwain cwmni Fortune Top-20. Goruchwyliodd Fiorina yr uniad sector technoleg mwyaf mewn hanes (yr adeg honno), pan gaffaelodd HP wneuthurwr cyfrifiaduron personol cystadleuol, Compaq yn 2002. Gwnaeth hyn HP yn werthwr mwya'r byd ym maes cyfrifiaduron personol. ers hynny diswyddodd HP 30,000 o weithwyr yn yr Unol Daleithiau. Yn Chwefror 2005 bu'n rhaid iddi ymddiswyddo fel Prif Swyddog Gweithredol a chadeirydd yn dilyn anghytundeb ystafell bwrdd. Gwasanaethodd wedyn fel Cadeirydd y sefydliad dyngarol Good360 .


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search